Apollodorus | |
---|---|
Ganwyd | c. 180 CC ![]() Athen yr henfyd ![]() |
Bu farw | 120 CC ![]() Athen yr henfyd ![]() |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd ![]() |
Galwedigaeth | hanesydd, bardd, ysgrifennwr, pensaer, mythograffydd, athronydd, ieithegydd ![]() |
Adnabyddus am | Chronicle ![]() |
Ysgolhaig, hanesydd, mytholegydd a gramadegwr o Roeg oedd Apollodorus (Groeg: Ἀπολλόδωρος), a elwir weithiau yn Apollodorus o Athen (tua 180 CC - ar ôl 120 CC).
Roedd yn fab i'r ysgolhaig Groegaidd Asclepiades. Roedd yn ddisgybl i Diogenes o Fabilon, Panaetius y Stoïg, a'r grammadegwr Aristarchus o Samothrace. Ar ôl gweithio am gyfnod yn ninas Alexandria bu rhaid iddo ffoi oddi yno tua'r flwyddyn 146 CC, efallai i ddinas Pergamum, ac oddi yno i Athen. Am gyfnod credid mai ef oedd awdur y Bibliotheca, y llyfr enwocaf ar fytholeg y Groegiaid, ond gwyddys erbyn hyn ei fod yn waith diweddarach.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search